Fframwaith Cwricwlwm Diogelwch y Cartref - CymraegEnglish Version (Fersiwn Saesneg) Mae’r fframwaith, a ddatblygwyd gyda chymorth y DTI, yn darparu adnodd i ysgolion sy’n dymuno i’w cwricwlwm gynnwys diogelwch yn y cartref. Mae cynllun gwers wedi’i ddarparu ar gyfer pob gweithgaredd unigol yn y fframwaith. Os yw’n briodol, mae taflen waith wedi’i chynnwys hefyd. Dyma rai o’r pynciau sy’n cael sylw
Mae’r cwricwlwm yn darparu addysg barhaol ynglyn â diogelwch yn y cartref o’r dosbarth derbyn ymlaen drwy’r pedwar cyfnod allweddol, gan adeiladu ar yr hyn sydd wedi’i ddysgu eisoes. Er hynny, mae pob gwers yn sefyll ar ei phen ei hun, a gellir ei phlethu i gynlluniau gwersi. Darperir cysylltiadau â’r Cwricwlwm Cenedlaethol yng Nghymru gan roi sylw i bynciau ABCh, Saesneg, Gwyddoniaeth ac ati. Bob blwyddyn, bydd rhyw 3,900 o bobl yn marw o ganlyniad i ddamwain yn y cartref, ac aiff 2.7 miliwn i ganolfannau sy’n trin damweiniau ac achosion brys. Mae’r cwrs hwn yn darparu addysg oes drwy addysgu plant sut mae bod yn ddiogel wrth iddynt dyfu ac yna ddatblygu sgiliau bywyd a fydd yn eu paratoi i fyw fel oedolion. Gwybodaeth Gyffredinol
Fframwaith
Cynlluniau Gwersi a Taflenni Gwaith
|